|
||
|
|
||
|
||
|
Diweddariad ar Gyffuriau a materion cysylltiedig Blaenoriaethau Lleol |
||
|
Annwyl{FIRST_NAME} , Diolch i chi am gymryd rhan yn yr arolwg blaenoriaeth lleol yn ddiweddar, mae eich adborth parhaus am faterion lleol sy'n peri pryder yn hanfodol er mwyn ein galluogi i dargedu adnoddau'n effeithiol. Er na wnaethoch chi godi Cyffuriau a materion cysylltiedig fel pryder yn eich adborth diwethaf, mae'r mater hwn wedi cael ei godi gan aelodau eraill o'ch ardal leol felly roedden ni'n meddwl y byddech chithau hefyd yn hoffi derbyn y diweddariad hwn. Prynhawn da, Mae marchnad cyffuriau anghyfreithlon yn fusnes mawr, gwerth tua £9.4 biliwn y flwyddyn ac mae marwolaethau o gyffuriau wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed. Gan ystyried y niwed i iechyd, costau troseddu ac effeithiau ehangach ar gymdeithas gyda'i gilydd, amcangyfrifir bod cyfanswm costau cyffuriau i gymdeithas dros £19 biliwn, sy'n fwy na dwywaith gwerth y farchnad ei hun. Os ydych chi'n cael eich effeithio'n andwyol gan ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich cymuned sy'n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau, mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn amlinellu'r offer a'r pwerau hyblyg y gall yr heddlu, awdurdodau lleol ac asiantaethau lleol eraill eu defnyddio i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol. Os byddwch chi byth yn profi'r broblem hon neu os oes gennych chi wybodaeth am ddigwyddiad, rhowch wybod amdano gan ddefnyddio ein hoffer adrodd ar-lein yn https://www.gwent.police.uk , siaradwch â gweithredwr yn Ystafell Gyfathrebu’r Heddlu drwy ein sgwrs we ar-lein neu ffoniwch y rhif di-argyfwng 101. Fel arall, gallwch aros 100 y cant yn anhysbys drwy gysylltu â'r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu drwy eu ffurflen ar-lein na ellir ei holrhain yn crimestoppers-uk.org . Cadwch eich barn yn gyfredol drwy gymryd ychydig funudau i ddiweddaru ein harolwg blaenoriaeth. Gallwch wneud hynny o'r botwm isod ac rydym yn ei anfon allan yn rheolaidd fel y gallwch ddylanwadu ar beth yw ein blaenoriaethau. Gallwch hefyd newid pa faterion rydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi amdanynt drwy glicio'r botwm gosodiadau isod. Efallai yr hoffech chi hefyd roi sgôr i'r neges hon i roi gwybod i ni a oedd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol ai peidio, neu ddefnyddio'r system i newid pa faterion rydyn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi amdanynt. Gallwch chi wneud y pethau hyn yn gyflym ac yn hawdd gan ddefnyddio'r botymau isod. | ||
Reply to this message | ||
|
|






