Mae ein cymdogaethau o bwys

Croeso i Mae Cymdogaethau’n Bwysig – ein gwasanaeth negeseuon ac ymgysylltu cymunedol newydd.

Mae'r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn yn rhoi mynediad agosach i chi at eich tîm plismona cymdogaeth lleol, gan eich galluogi i dderbyn diweddariadau amserol ar ddigwyddiadau lleol a thueddiadau troseddu, darganfod mwy am ddigwyddiadau sydd ar ddod a dweud eich dweud ar flaenoriaethau plismona lleol.

Wrth gofrestru, cewch y cyfle i ddewis y math o ddiweddariad yr hoffech ei dderbyn – boed hynny’n gyngor atal troseddau, newyddion am ddigwyddiadau diweddar, neu hyd yn oed rhybuddion gan bartneriaid fel Gwarchod y Gymdogaeth ac Action Fraud.

Gallwch hefyd roi adborth a chwblhau arolygon drwy’r ddolen i roi gwybod i’ch tîm plismona cymdogaeth am yr hyn sydd bwysicaf i chi a sut y gallwn gydweithio i gadw ein cymunedau’n ddiogel.

Cofiwch, er bod ein swyddogion yma 24/7 i'ch amddiffyn, nid yw'r gwasanaeth yn offeryn adrodd troseddau byw. Felly, os oes angen ein cymorth arnoch, parhewch i ddefnyddio'r sianeli pwrpasol sydd gennym eisoes trwy ein gwefan, y gwasanaeth ffôn 101, ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu e-bost i adrodd trosedd.

Os yw'n argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.

Cofrestrwch Nawr

Chwiliwch am eich Tîm Plismona Bro lleol

Dewch o hyd i’ch Tîm Plismona Bro lleol a gallwch gysylltu â nhw’n uniongyrchol drwy nodi cyfeiriad stryd neu god post isod:

Arolwg Blaenoriaeth Lleol

I gael dweud eich dweud ar faterion lleol, cliciwch ar y botwm isod i gwblhau arolwg byr.

Diweddariadau

Message type icon

St Georges surgery : Wed 15 Oct 13:00

Dear member Your local Neighbourhood Team will be at St George' Church at Church Street, Tredega...

Gwent Police
13/10/2025 16:43:43

View Alert
Message type icon

Who's online?

A quick message to ascertain who, in the current members list, still has access to the system?

Gwent Police
13/10/2025 15:06:41

View Alert
Message type icon

Neighbourhood Alert Awareness

Good Morning everyone, just a quick message to update all users that we are going to be using this s...

Gwent Police
13/10/2025 11:28:21

View Alert